Mae’r wybodaeth ganlynol er cyfarwyddyd yn unig ac nid dyma'r criteria beirniadu. Peidiwch â cheisio ateb unrhyw gwestiynau a awgrymir nad yw’n gymwys i’ch cymuned chwi. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch y cwestiynau yma neu briodoldeb eich cais, dylech gysylltu â: Calor ffôn: 01962 629768, e-bost: info@calorvillageoftheyear.org.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys chwe chategori y mae’r pentref yn cael ei feirniadu yn ei erbyn:
Bywyd Cymunedol
Busnes
Pobl Ifanc
Pobl Hyn
Yr Amgylchedd
Technoleg Gwybodaeth
| |
|
 |
Dychmygwch fod ymwelydd wedi gofyn i chwi beth sydd yn digwydd yn eich pentref – pa weithgareddau sydd ar gael? Rhowch ddisgrifiad cryno. |
 |
Sut y mae gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu yn eich cymuned, ee newyddlen, cylchgrawn y plwyf, gwefan, hysbysfyrddau, Sefydliad y Merched, Merched y Wawr? Faint o dai sydd yn derbyn newyddlen neu gylchgrawn y plwyf? |
 |
Sut y mae’r gymuned yn cefnogi pobl mewn angen? A oes yna unrhyw fath o drafnidiaeth gymunedol neu gynllun car gwirfoddol? |
 |
Pa fath o weithgareddau a drefnir gan bobl leol yn y neuadd bentref neu ganolfan bentrefol arall? |
 |
Pa grwpiau eraill sydd yn trefnu gweithgareddau cymunedol, ee Sefydliad y Merched, Merched y Wawr, gymdeithas drama, grŵp hanes lleol, grwpiau chwaraeon, grwpiau capel/eglwys, eraill? |
 |
Sut y mae pobl newydd yn cael eu croesawu i’r pentref, a pha mor rhwydd yw hi iddynt gymryd rhan ym mywyd y pentref? |
 |
A yw eich pentref wedi cwblhau (o fewn y 12 mis diwethaf) neu ar fin ymgymryd â phrosiect arbennig? Rhowch fanylion byr, gan egluro pa fudd sydd wedi dod, neu a fydd yn dod, o ganlyniad, a pwy oedd yn gysylltiedig ag o? |
 |
Beth yw’r materion cyfredol yn eich cymuned? Pwy a beth sy’n gysylltiedig â hwy? |
 |
A yw pobl leol yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli yn dda, ee gan y Cyngor Cymuned? |
| |
|
| |
|
 |
Pa ran y mae busnesau lleol yn ei chwarae ym mywyd y pentref, ee swyddfa’r post, siop y pentref, fferm, mentrau diwydiannol, gweithio o gartref? |
 |
A yw busnesau lleol yn cefnogi bywyd cymunedol a ‘vice versa’? |
 |
Pa gyfleoedd gyflogaeth y mae’r busnesau yma yn eu cynnig i bobl leol? Amcangyfrifwch faint o bobl leol sydd yn cael eu cyflogi? |
 |
A yw'r busnesau yma yn achosi unrhyw anawsterau amgylcheddol, ac os felly, sut y maent yn cael eu taclo? |
 |
A yw’r Cyngor Cymuned yn gwneud unrhyw beth i annog neu helpu busnesau mewn bodolaeth eisoes neu geisio denu rhai newydd? Os felly, beth? |
| |
|
| |
|
 |
Pa gyfleusterau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol sydd yn cael eu darparu i bobl ifanc yn eich cymuned, ee crèche, grwpiau cyn ysgol, grwpiau ieuenctid, arall? |
 |
Sut y cefnogir y rhain gan y gymuned? |
 |
A yw digwyddiadau yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc? A ydynt yn denu pobl o’r tu allan i’r gymuned? |
 |
A yw pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn fforymau cymryd penderfyniadau sy’n cael effaith ar eu rôl o fewn y gymuned? Sut y mae anghenion pobl ifanc yn cael eu hasesu? |
| |
|
| |
|
 |
Pa gyfleusterau, gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael i bobl hyn yn eich pentref, ee cynllun car, cymorth cartref, clybiau cymdeithasol? |
 |
Pa ddarpariaethau sydd yna i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi? |
 |
A oes yna fforwm neu grŵp yn canolbwyntio ar bobl hyn, ac a ydynt yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn prosesau cymryd penderfyniadau? |
 |
A yw pobl hyn yn gysylltiedig â gweithgareddau pentrefol a pa ran maent yn ei chwarae ym mywyd y pentref? |
| |
|
| |
|
 |
Beth sydd wedi, neu beth sydd yn, cael ei wneud ar hyn o bryd yn eich cymuned i ddiogelu a gwella'r amgylchedd lleol a’r amgylchedd byd eang? |
 |
A oes yna lecynnau o gadwraeth arbennig? Pwy sy’n eu rheoli? |
 |
Dywedwch wrthym am bolisi ag ymarferiad cadwraeth yn eich pentref. Sut y mae pobl y pentref yn cyfrannu? |
 |
A yw deunydd er gwybodaeth neu ddeunydd addysgol yn cael ei ddarparu, ee newyddlen neu daflenni? |
| |
|
Fe fydd y trefnwyr yn asesu ceisiadau TG ac fe fydd rhestr fer yn cael ei gyflwyno i feirniaid annibynnol ar gyfer asesiad terfynol. Er bod categori TG yn rhan gyfannol o Gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, ni fydd ceisiadau i’r categori yma yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar enillwyr y prif wobrau. O ganlyniad, nid oes raid i gymuned gystadlu yng nghategorïau 1 - 5 i allu cystadlu yng nghategori TG.
Bwriadir y categori yma i’r pentrefi hynny sydd un ai wedi dechrau ar ffordd dechnolegol neu i’r rhai sydd wrthi yn cynllunio hynny. Fe fydd y beirniaid yn chwilio am y pentrefi sydd yn gweithio orau gyda’r dechnoleg sydd ar gael iddynt, sydd yn ceisio sicrhau mynediad i ffynonellau ariannol, ynghyd â chefnogaeth a hyfforddiant er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion sydd ar gael o Dechnoleg Gwybodaeth. Fe fydd yn rhaid i bentref gael gwefan neu allu arddangos cynlluniau manwl ar gyfer datblygu safle, ynghyd â sut y mae technoleg yn cael ei ddefnyddio, neu sut y gall y gael ei integreiddio i mewn, i fywyd pentrefol cymuned.
| |
Mae’r elfennau i’w beirniadu fel a ganlyn - |
 |
1. TG yn y gymuned:
A oes yna gyrsiau dysgu sgiliau / hyfforddiant / cyngor o fewn y pentref; ymglymiad / cefnogaeth gan y cyngor cymuned ac/neu fusnesau lleol; defnydd ehangach o DG i gefnogi bywyd cymunedol; mynediad cymunedol i dechnoleg. |
 |
2. Gwefan gyfredol / cynlluniau manwl ar gyfer gwefan:
Rhwyddineb defnydd y safle a sicrhau mynediad i wybodaeth; hyrwyddo a chyhoeddusrwydd i’r safle (effeithiolrwydd wrth gyrraedd targed gynulleidfa); cynllun y dudalen (ymddangosiad a thechnoleg); newid rheolaeth (graddfa mynediad i’r rhai heb gyfrifiadur neu sgiliau TG); ymglymiad pentrefol (pob sector); gwesteiwr y safle; cysylltiadau i safleoedd eraill perthnasol; unrhyw nodweddion arbennig. |
 |
3. Cyffredinol
Buddion go iawn/a gynlluniwyd ar gyfer y pentref o ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth, ee twristiaeth, cyfathrebiad lleol o fewn y pentref ac ardaloedd cyfagos, busnes, yr amgylchedd; syniadau eraill. |
| |
|
Os hoffech help gyda llunio eich dogfennau ymgeisio gallwn gynnig cyfarwyddyd pellach.
Cysylltwch â:
Pentref y Flwyddyn Calor Cymru
ffôn: 01962 629768
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org
|