Sut yr Asesir Eich Cais
Fe fydd pob ffurflen gais, a dderbynnir cyn Ebrill 30ain 2006 yn cael ei asesu. Dylai swyddog cydnabyddedig o’r corff cymunedol arwyddo'r cerdyn ymgeisio.
Fe fydd pentrefi sydd yn cystadlu yn y Gystadleuaeth i Bentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn cael eu rhannu i ddau ranbarth sef Gogledd Cymru a De Cymru.
Fe fydd beirniadu dechreuol y pentrefi hynny sydd yn cael eu dewis ar gyfer y rhestr fer, ar sail eu ceisiadau ysgrifenedig, yn cymryd lle yn ystod misoedd yr haf er mwyn penderfynu ar enillwyr categorïau Gogledd Cymru a De Cymru. Fe fydd tîm o feirniaid yn ymweld â phob pentref ar y rhestr fer yn ystod y cyfnod yma. Fe fydd pob ymweliad yn parhau am ddwy awr ac fe fydd yn gyfle i’r pentref gyflwyno cyflwyniad i’r beirniaid. Fe fydd trefnydd beirniadu eich rhanbarth yn cysylltu â chwi mewn da o bryd i drafod amseriad ymweliad y beirniaid.
Fe fydd rhai pentrefi detholedig yn cael eu beirniadu ymhellach yn yr hydref. Fe fydd panel o feirniaid rownd terfynol yn ymweld â’r pentrefi dethol yma. Byddwn ond yn cysylltu gyda’r pentrefi a ddewisir i gael beirniadu pellach. Fe ddylai’r paratoadau ar gyfer yr ymweliad yma fod yr un fath ag ymweliad cyntaf y beirniaid. Ni ddylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi derbyn gwobr os na chaiff eich pentref ail ymweliad gan y beirniaid.
Ni fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi tan Ginio Gwobrwyo Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, sydd i’w gynnal ar Hydref 31ain, 2006. Fe fydd pob pentref ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i anfon dau gynrychiolydd i’r cinio yma i ddathlu eu gorchestion.
|