Efallai nad yw bywyd pentrefol a’r cyfan y mae hynny yn ei olygu i gymunedau yn gofadail gweladwy fel adeilad hynafol neu eglwys gadeiriol fawreddog, ond rwy’n credu ei fod yr un mor bwysig ac mae’n haeddu’r amddiffyniad orau a allwn ei roi iddo. Roeddwn mor falch o glywed am lansiad y gystadleuaeth hon yng Nghymru. Mae’n rhan hanfodol bwysig o’r amddiffyniad honno, ac ni allaf longyfarch Calor yn ddigon gwresog am roi cefnogaeth werthfawr iddi.
Cyhoeddodd Tywysog Cymru enillwyr rhanbarthol Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® 2005 yn ystod ymweliad a phentref Pendeulwyn. Treuliodd y Tywysog amser yn mynd o amgylch yr ardal gyda Duges Cernyw. Pendeulwyn oedd yr enillydd yng nghategori'r Amgylchedd yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2004. Datgelodd Tywysog Cymru mai pentref Clawddnewydd yn Sir Dinbych oedd enillydd Gogledd Cymru a phentref Ffarmers yn Sir Caerfyrddin oedd enillydd De Cymru.
Roedd yr ymweliad â Phendeulwyn yn cynnwys ymweliad â’r ysgol leol ac eglwys y pentref cyn gorffen gyda dadorchuddio plac ar faes y pentref i goffau'r ymweliad Brenhinol a llwyddiant Pendeulwyn yn ennill categori Amgylchedd dros Gymru yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2004.
|