Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
Village Aid
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
Visit Calor Shops - something for everybody

Mae Gwobr Tafarn Wledig yn y Gymuned Calor

Mae Gwobr Tafarn Wledig yn y Gymuned CalorMae Gwobr Tafarn Wledig yn y Gymuned Calor yn cael ei lansio gan Calor fel rhan o'i Raglen Noddi Cefn Gwlad gyda chefnogaeth Busnes yn y Gymuned a'i ymgyrch Pub is the Hub. Yn draddodiadol, mae'r dafarn wrth galon pentref ac mae pwysigrwydd hybu cymunedau cynaliadwy wrth galon cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor ® hefyd. Nid oes raid i dafarn a'i chymuned roi cynnig ar gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor ® er mwyn cael ceisio am y wobr, gan ei bod yn sefyll ar ei thraed ei hun.



Bydd Calor, ynghyd â Busnes yn y Gymuned a Pub is the Hub, yn defnyddio'r gystadleuaeth hon i ddathlu tafarnau sydd wedi arallgyfeirio eu gwasanaethau i gynnig mwy o amrywiaeth o wasanaethau i'w cymuned leol. Byddwn yn canolbwyntio ar dafarnau sydd wedi dod o hyd i ddulliau arloesol o wasanaethu eu cymunedau lleol a hybu llwyddiant eu busnes yn y broses.

Pwrpas Gwobr Tafarn Wledig yn y Gymuned yw rhannu arferion da a syniadau y gall tafarndai gwledig a thafarnwyr eraill eu mabwysiadu er mwyn cynyddu llwyddiant eu busnesau eu hunain a'u cymunedau.

Mae Busnes yn y Gymuned yn gweithio i hybu cysylltiadau manteisiol rhwng busnesau a chymunedau lleol. Cododd y syniad am y wobr o'i waith gyda Pub is the Hub, a ysbrydolwyd gan Dywysog Cymru, sydd yn Llywydd Busnes yn y Gymuned. Ymgyrch yw Pub is the Hub sydd yn rhoi gwybodaeth, cyngor, a chanllawiau gwerthfawr am sut y gellir cynnal tafarndai yng nghymunedau cefn gwlad.

 

 

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy